Comisiwn y Cynulliad
Assembly Commission
CCCC 2013
Cofnodion cyfarfod 11 Tachwedd 2013
Dyddiad: Dydd Llun 11
Tachwedd
2013
Amser:
12.00-13.30
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, TŷHywel
Yn bresennol:
Rosemary Butler AC, y Llywydd
Sandy Mewies AC
Peter Black AC
Angela Burns AC
Rhodri Glyn Thomas AC
Swyddogion yn bresennol:
Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc
Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad
Craig Stephenson, Prif Ysgrifennydd Preifat
Carys Evans, Prif Ysgrifennydd y Comisiwn
Eraill:
David Melding AC, y Dirprwy Lywydd
Daniel Greenberg
1. Cyflwyniad y Cadeirydd
Cyflwyniadau ac ymddiheuriadau
Croesawodd y Llywydd Daniel Greenberg i’r cyfarfod a diolchodd iddo am gytuno i gymryd rhan.
Datgan buddiannau
Nid oedd buddiannau i’w datgan.
Cofnodion cyfarfod 17 Hydref 2013
Cytunwyd ar y cofnodion.
2. Pwyllgorau Seneddol o Safon Fyd-eang
Trafododd y Comisiynwyr yr arolwg o’r cymorth a ddarperir i Bwyllgorau’r Cynulliad, a lansiwyd ganddynt ym mis Rhagfyr 2012. Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf am hyn cyn toriad yr haf. Yn dilyn hynny, roedd y Comisiynwyr wedi gofyn i waith pellach gael ei wneud i ddatblygu’r weledigaeth ar gyfer y maes craidd hwn yng ngweithgaredd y Cynulliad ac am opsiynau ar gyfer gwella perfformiad drwy’r adnoddau a ddarparwyd gan y Comisiwn.
Nododd y Comisiynwyr eu gweledigaeth ar gyfer pwyllgorau seneddol o safon fyd-eang, gan gytuno:
- y dylent wella yn amlwg ansawdd canlyniadau polisi, deddfwriaeth, gwasanaethau cyhoeddus a gwariant y Llywodraeth i’r gymdeithas gyfan yng Nghymru;
- y dylent gael eu parchu a bod yn ddylanwadol a hygyrch, gan weithredu gyda gonestrwydd ac annibyniaeth;
- y dylai eu gwaith fod yn strategol a thrwyadl.
Roedd y Comisiynwyr yn cydnabod bod maint y Cynulliad yn golygu bod gan bob Pwyllgor lwyth gwaith sylweddol. Ar gyfer rhai Pwyllgorau, roedd y cynnydd yn nifer y darnau o ddeddfwriaeth a gyflwynwyd yn effeithio ar faint o amser sydd ar gael i graffu ar bolisi. Cytunwyd bod y Pwyllgorau’n gweithio’n fwyaf effeithiol pan fyddant yn ymdrin â’u gwaith mewn modd strategol. Roedd hyn yn eu helpu i gynyddu eu heffaith a’u cyrhaeddiad.
Mae’r cymorth sydd ar gael i aelodau pwyllgorau, fel papurau briffio dwyieithog, gwaith ymchwil a chyngor cyfreithiol, o safon uchel iawn. Mae’n hanfodol darparu’r rhain mewn ffyrdd sy’n gweddu orau i anghenion yr Aelodau fel y gallant wneud eu gwaith pwyllgor yn effeithiol. Dylid parhau i ymchwilio i ffyrdd newydd o weithio i sicrhau bod yr adnoddau hyn yn cael eu targedu’n dda ac yn cael yr effaith fwyaf bosibl.
Dylai’r Cadeiryddion rannu’r dulliau rhagorol o weithio sy’n gwella perfformiad ac yn cynyddu capasiti yn rheolaidd fel y gellir mabwysiadu arferion arloesol ar draws y Pwyllgorau. Byddai rhannu gwybodaeth yn y modd hwn yn gwella’r perfformiad ar draws y Cynulliad, gan gadw’r hyblygrwydd sy’n galluogi Pwyllgorau i bennu eu strategaethau eu hunain ac i ymdrin â’u llwyth gwaith.
Roedd yr enghreifftiau o’r meysydd rhagorol a amlygwyd gan y Comisiynwyr yn cynnwys ymgysylltu â’r gymdeithas sifil, y gwaith datblygu proffesiynol parhaus a wnaed gan Gadeiryddion unigol a Phwyllgorau, a’r defnydd o gynghorwyr allanol. Wrth gynghori’r Comisiwn, canmolodd Daniel Greenberg y gwaith a wnaed eisoes gan Bwyllgorau’r Cynulliad a chytunodd bod agweddau ar y gwaith a wneir yma yn cael eu hedmygu gan seneddau eraill, yn enwedig y dull o gynnig datblygiad proffesiynol parhaus a’r defnydd o arbenigedd.
Cytunwyd y byddai’r weledigaeth a’r materion craidd yn cael eu nodi mewn adroddiad gan y Comisiwn. Byddai’r Comisiynwyr yn paratoi drafft o’r adroddiad hwn i’w drafod, ac yna byddai trafodaethau yn cael eu cynnal gyda Chadeiryddion y Pwyllgorau ac eraill.
Yr Ysgrifenyddiaeth
Tachwedd 2013